HYSBYSIAD O YMCHWILIAD
DEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981
Hysbysir drwy hyn y penodir Arolygydd gan
Weinidogion Cymru i benderfynu ar
ORCHYMYN ADDASU MAP DIFFINIOL
CYNGOR SIR GÂR
LLWYBR TROED CYHOEDDUS 62/11 BRIARDALE, GLANYFFERI
a bydd yn bresennol yn:
Neuadd Bentref Glanyfferi, Teras y Neuadd, Glanyfferi,
Sir Gaerfyrddin, SA17 5SN
ar ddydd Iau 31 Ionawr 2018 am 10.00am
Er mwyn cynnal ymchwiliad ar yr addasiadau a gynigir gan yr Arolygydd i’r Gorchymyn fel y nodir yn ei llythyr dyddiedig 17 Chwefror 2015.
Effaith y Gorchymyn, os fe’i cadarnheir heb addasiadau, fydd cywiro aliniad y llwybr troed o bwynt i’r gogledd o ‘Cartrefle’ ac yn rhedeg i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain tuag at ‘Haven View’ cyn troi i’r de ac wedyn i’r dwyrain fel y dangosir ar Fap y Gorchymyn ac y disgrifiwyd yn atodlen y Gorchymyn.
Effaith yr addasiad(au) fyddai:
(a) Yn Rhan 1 yr atodlen, dileu’r geiriau ‘Lled – 0.91 metr’ o’r disgrifiad o’r llwybr neu ffordd i’w dileu ac o’r disgrifiad o’r llwybr neu ffordd i’w hychwanegu.
(b) Yn Rhan 1 yr atodlen yn y paragraff â’r pennawd disgrifiad o’r llwybr neu ffordd i’w hychwanegu, dileu ‘oddeutu 38 metr hyd at (bwynt F ar y map)’ a gosod ‘oddeutu 27 metr (Pwynt G ar y map)’.
(c) Yn Rhan II yr atodlen, dileu’r geiriau ‘Lled 0.91 metr’.
(d) Diwygio map y Gorchymyn i ddangos y rhan o’r llwybr troed i’w hychwanegu G-D ar hyd y llinell goch doredig fel y’i hatodwyd a dileu’r rhan honno o’r llwybr troed i’w hychwanegu G-F-D.
Dalier Sylw: Ni fydd yr Arolygydd yn gallu clywed gwrthwynebiadau neu sylwadau yn ymwneud â rhan(nau) y Gorchymyn sydd heb addasiad.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau yn ymwneud â’r Gorchymyn hwn at J Nicholas, Yr Arolygiaeth Gynllunio, Yr Adran Hawliau Tramwy, Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Ffôn: 0303 444 5948. E-bost: wales@pins.gsi.gov.uk. Rhowch y rhif cyfeirnod 515909M ar bob gohebiaeth.
Mae unrhyw berson sy’n dymuno edrych ar ddatganiadau’r achos a dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r Gorchymyn hwn yn gallu gwneud hynny drwy apwyntiad gyda Ms Lucy Pugh, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Parc Coetir Mynydd Mawr, Heol Hirwaun Olau, Y Tyml, Sir Gaerfyrddin, SA14 6HU. Ffôn 01554 742215. Drwy e-bost: LPugh@carmarthenshire.gov.uk
Isabel Nethell
Awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru
Ewch at y tudalennau saesneg am linc i'r map